Lleoliad:
Hybrid: Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.15-09.30)
Cyfarfod cyhoeddus
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(09.30)
2 Craffu ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd – sesiwn 1
(09.30-10.30) (Tudalennau 1 - 17)
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Dogfennau atodol:
Briff Ymchwil
Egwyl (10.30-10.45)
3 Craffu ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd – sesiwn 2
(10.45-11.45)
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
4 Papurau i’w nodi
(11.45)
4.1 COP15, bioamrywiaeth, egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol, a pholisi Adnoddau Naturiol
(Tudalennau 18 - 23)
Dogfennau atodol:
Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 21 Ebrill, mewn perthynas â gwaith Llywodraeth Cymru ar COP15, bioamrywiaeth, egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol, a pholisi Adnoddau Naturiol
4.2 Yr argyfwng prisiau ynni
(Tudalennau 24 - 25)
Dogfennau atodol:
Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 10 Mai, mewn perthynas â’r argyfwng prisiau ynni
4.3 Plastig untro
(Tudalennau 26 - 30)
Dogfennau atodol:
Ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i lythyr y Cadeirydd, dyddiedig 10 Mai, mewn perthynas â phlastig untro
4.4 Datgarboneiddio tai – tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 28 Ebrill
(Tudalennau 31 - 36)
Dogfennau atodol:
Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl mewn perthynas â datgarboneiddio tai (Saesneg yn unig)
4.5 Ynni adnewyddadwy yng Nghymru
(Tudalennau 37 - 38)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy yng Nghymru
4.6 Ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion: Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru
(Tudalennau 39 - 43)
Dogfennau atodol:
Ymateb gan Hafren Dyfrdwy mewn perthynas ag argymhellion y
Pwyllgor yn ei adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (Saesneg
yn unig)
Ymateb gan Dŵr Cymru mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor
yn ei adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru (Saesneg yn
unig)
4.7 Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
(Tudalennau 44 - 46)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 16 Mai
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) and (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
(11.45)
Cyfarfod preifat (11.45-12.00)
6 Craffu ar waith y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd – trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 a 3
7 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor mewn perthynas â'i ymchwiliad i ddatgarboneiddio tai
(Tudalennau 47 - 54)
Dogfennau atodol:
Papur – Blaenraglen waith: ymchwiliad i ddatgarboneiddio tai (Saesneg yn unig)